16 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw:“Wele fi'n gosod carreg sylfaen yn Seion,maen a brofwyd, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy;ni frysia'r sawl sy'n credu.
17 Gwnaf farn yn llinyn mesur,a chyfiawnder yn blymen;bydd y cenllysg yn ysgubo ymaith eich noddfa celwydd,a'r dyfroedd yn boddi eich lloches;
18 diddymir eich cyfamod ag angau,ac ni saif eich cynghrair â Sheol.Pan â'r ffrewyll lethol heibiocewch eich mathru dani.
19 Bob tro y daw heibio, fe'ch tery;y naill fore ar ôl y llall fe ddaw,liw dydd a liw nos.”Ni fydd namyn dychryn i'r sawl a ddeall y wers.
20 Y mae'r gwely'n rhy fyr i rywun ymestyn ynddo,a'r cwrlid yn rhy gul i'w blygu amdano.
21 Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel ar Fynydd Perasim,ac yn bwrw ei ddicter fel yn nyffryn Gibeon,i orffen ei waith, ei ddieithr waith,ac i gyflawni ei orchwyl, ei estron orchwyl.
22 Yn awr, peidiwch â'ch gwatwar,rhag i'r rhwymau dynhau amdanoch,canys clywais gyhoeddi diwedd a therfyn ar yr holl wladgan Arglwydd DDUW y Lluoedd.