5 Yn y dydd hwnnw bydd ARGLWYDD y Lluoeddyn goron odidog, yn dorch brydferth i weddill ei bobl,
6 yn ysbryd tegwch i'r sawl sy'n eistedd mewn barn,ac yn gadernid i'r sawl sy'n troi'r rhyfel draw o'r porth.
7 Ond y mae eraill sy'n simsan gan win,ac yn gwegian yn eu diod;y mae'r offeiriad a'r proffwyd yn simsan yn eu diod,ac wedi drysu gan win;y maent yn gwegian mewn diod,yn simsan yn eu gweledigaeth,ac yn baglu yn eu dyfarniad.
8 Y mae pob bwrdd yn un chwydfa;nid oes unman heb fudreddi.
9 “Pwy y mae'n ceisio'i ddysgu,ac i bwy y mae am roi gwers?Ai rhai newydd eu diddyfnua'u tynnu oddi wrth y fron?
10 Y mae fel dysgu sillafu:‘o s’ am ‘os’, ‘o s’ am ‘os’; ‘a c’ am ‘ac’, ‘a c’ am ‘ac’—gair bach yma, gair bach draw.”
11 Yn wir, trwy iaith estron a thafod dieithry lleferir wrth y bobl hyn,