8 Y mae pob bwrdd yn un chwydfa;nid oes unman heb fudreddi.
9 “Pwy y mae'n ceisio'i ddysgu,ac i bwy y mae am roi gwers?Ai rhai newydd eu diddyfnua'u tynnu oddi wrth y fron?
10 Y mae fel dysgu sillafu:‘o s’ am ‘os’, ‘o s’ am ‘os’; ‘a c’ am ‘ac’, ‘a c’ am ‘ac’—gair bach yma, gair bach draw.”
11 Yn wir, trwy iaith estron a thafod dieithry lleferir wrth y bobl hyn,
12 y rhai y dywedodd wrthynt,“Dyma'r orffwysfa, rhowch orffwys i'r lluddedig,dyma'r esmwythfa”—ond ni fynnent wrando.
13 Ond dyma air yr ARGLWYDD iddynt:“Mater o ddysgu sillafu yw hi:‘o s’ am ‘os’, ‘o s’ am ‘os’; ‘a c’ am ‘ac’, ‘a c’ am ‘ac’—gair bach yma, gair bach draw.”Felly, wrth fynd ymlaen, fe syrthiant yn ôl,a'u clwyfo, a'u baglu a'u dal.
14 Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi wŷr gwatwarus,penaethiaid y bobl hyn sydd yn Jerwsalem.