20 Darfu am y rhai creulon, peidiodd y rhai trahaus,torrir ymaith bob un sy'n barod i wneud drygioni,
21 a phawb sy'n cyhuddo dyn o gamwedd,yn gosod magl i'r un sy'n erlyn yn y porth,ac yn atal barn trwy dwyllo'r cyfiawn.
22 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ Jacob, y Duw a waredodd Abraham:“Nid yw'n amser i Jacob gywilyddio,nac yn awr i'w wyneb welwi;
23 pan wêl ef ei blant, gwaith fy nwylo o'i fewn,fe sancteiddiant fy enw,sancteiddiant Sanct Jacob,ac ofnant Dduw Israel;
24 a bydd y rhai cyfeiliornus o ysbryd yn dysgu deall,a'r rhai gwrthnysig yn derbyn gwers.”