9 Safwch yn syn a syfrdan, yn ddall a hurt;ewch yn feddw, ond nid ar win,yn chwil, ond nid ar ddiod gadarn.
10 Canys tywalltodd yr ARGLWYDD arnoch ysbryd trwmgwsg;caeodd eich llygaid, sef y proffwydi,a gorchuddiodd eich pennau, sef y gweledyddion.
11 Aeth y broffwydoliaeth i gyd fel geiriau llyfr dan sêl. Os rhoddir ef i un a all ddarllen, a dweud, “Darllen hwn i mi”, fe etyb, “Ni allaf, oherwydd y mae wedi ei selio.”
12 Ac os rhoddir ef i un na all ddarllen, a dweud, “Darllen hwn i mi”, fe etyb, “Ni fedraf ddarllen.”
13 Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD,“Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu atafa thalu gwrogaeth i mi â geiriau yn unig,ond eu calon ymhell oddi wrthyf,a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof,
14 am hynny wele fi'n gwneud rhyfeddod eto,ac yn syfrdanu'r bobl hyn;difethir doethineb eu doethiona chuddir deall y rhai deallus.”
15 Gwae y rhai sy'n cloddio'n ddwfni gadw eu cynllwyn yn gudd rhag yr ARGLWYDD;am fod eu gwaith yn y tywyllwch,dywedant, “Pwy sy'n ein gweld? Pwy sy'n gwybod?”