18 Er hynny, y mae'r ARGLWYDD yn disgwyli gael trugarhau wrthych,ac yn barod i ddangos tosturi.Canys Duw cyfiawnder yw'r ARGLWYDD;gwyn ei fyd pob un sy'n disgwyl wrtho.
19 Chwi bobl Seion, trigolion Jerwsalem, peidiwch ag wylo mwyach. Bydd ef yn rasol wrth sŵn dy gri; pan glyw di, fe'th etyb.
20 Er i'r Arglwydd roi iti fara adfyd a dŵr cystudd, ni chuddir dy athrawon mwyach, ond caiff dy lygaid eu gweld.
21 Pan fyddwch am droi i'r dde neu i'r chwith, fe glywch â'ch clustiau lais o'ch ôl yn dweud, “Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi.”
22 Fe ffieiddiwch eich delwau arian cerfiedig a'ch eilunod euraid. Gwrthodi hwy fel budreddi; dywedi wrthynt, “Bawiach.”
23 Ac fe rydd ef iti law i'r had a heui yn y pridd, a bydd cynnyrch y ddaear yn rawn bras a llawn; bydd dy anifeiliaid yn pori mewn porfa eang yn y dydd hwnnw,
24 a chaiff yr ychen a'r asynnod sy'n llafurio'r tir eu bwydo â phorthiant blasus, wedi ei nithio â fforch a rhaw.