26 A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul yn seithwaith mwy, fel llewyrch saith diwrnod, ar y dydd pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briw ei bobl, ac yn iacháu'r archoll ar ôl eu taro.
27 Wele, daw enw'r ARGLWYDD o bell;bydd ei ddigofaint yn llosgi a'i gynddaredd yn llym,ei wefusau'n llawn o ddictera'i dafod fel tân ysol,
28 ei anadl fel llifeiriant yn rhuthroac yn cyrraedd at y gwddf;bydd yn hidlo'r cenhedloedd â gogr dinistriol,ac yn gosod ffrwyn ym mhennau'r bobloedd i'w harwain ar gyfeiliorn.
29 Ond i chwi fe fydd cân, fel ar noson o ŵyl sanctaidd;a bydd eich calon yn llawen, fel llawenydd rhai'n dawnsio i sŵn ffliwtwrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, at Graig Israel.
30 Bydd yr ARGLWYDD yn peri clywed ei lais mawreddog,ac yn dangos ei fraich yn taromewn dicter llidiog a fflamau tân ysol,mewn torgwmwl a thymestl a chenllysg.
31 Bydd Asyria yn brawychu rhag sŵn yr ARGLWYDD,pan fydd ef yn taro â'i wialen.
32 Wrth iddo'i chosbi, bydd pob curiad o'i wialen,pan fydd yr ARGLWYDD yn ei gosod arni,yn cadw'r amser i dympanau a thelynau,yn y rhyfeloedd pan gyfyd ei fraich i ymladd yn eu herbyn.