1 Wele, bydd brenin yn teyrnasu mewn cyfiawnder,a'i dywysogion yn llywodraethu mewn barn,
2 pob un yn gysgod rhag y gwyntac yn lloches rhag y dymestl,fel afonydd dyfroedd mewn sychdir,fel cysgod craig fawr mewn tir blinedig.
3 Ni chaeir llygaid y rhai sy'n gweld,ac fe glyw clustiau'r rhai sy'n gwrando;
4 bydd calon y difeddwl yn synied ac yn deall,a thafod y bloesg yn siarad yn llithrig a chlir.