13 am dir fy mhobl, sy'n tyfu drain a mieri,ac am yr holl dai diddan yn y ddinas lon.
14 Canys cefnwyd ar y palas,a gwacawyd y ddinas boblog.Aeth y gaer a'r tŵr yn ogofeydd am byth,yn hyfrydwch i'r asynnod gwylltac yn borfa i'r preiddiau.
15 Pan dywelltir arnom ysbryd oddi fry,a'r anialwch yn mynd yn ddoldir,a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir,
16 yna caiff barn drigo yn yr anialwcha chyfiawnder gartrefu yn y doldir;
17 bydd cyfiawnder yn creu heddwch,a'i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth.
18 Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon,mewn anheddau diogel, a chartrefi tawel,
19 a'r goedwig wedi ei thorri i lawr,a'r ddinas yn gydwastad â'r pridd.