3 Ni chaeir llygaid y rhai sy'n gweld,ac fe glyw clustiau'r rhai sy'n gwrando;
4 bydd calon y difeddwl yn synied ac yn deall,a thafod y bloesg yn siarad yn llithrig a chlir.
5 Ni elwir mwyach y ffŵl yn fonheddig,ac ni ddywedir bod y cnaf yn llednais.
6 Oherwydd y mae'r ffŵl yn traethu ffolineb,a'i galon yn dyfeisio drygioni,i weithio annuwioldeb,i draethu celwydd am yr ARGLWYDD;y mae'n atal bwyd rhag y newynog,ac yn gwrthod diod i'r sychedig.
7 Y mae cynllwyn y cnaf yn faleisus;y mae'n dyfeisio camwrii ddifetha'r tlawd trwy dwyll,a gwadu cyfiawnder i'r anghenus.
8 Ond y mae'r anrhydeddus yn gweithredu anrhydedd,ac yn ei anrhydedd y saif.
9 Safwch, chwi wragedd moethus, a chlywch;gwrandewch fy ymadroddion, chwi ferched hyderus.