8 Ond y mae'r anrhydeddus yn gweithredu anrhydedd,ac yn ei anrhydedd y saif.
9 Safwch, chwi wragedd moethus, a chlywch;gwrandewch fy ymadroddion, chwi ferched hyderus.
10 Ymhen ychydig dros flwyddyn cewch eich ysgwyd o'ch difrawder,oherwydd derfydd y cynhaeaf gwin, a chwithau heb gasglu ffrwyth.
11 Chwi sy'n ddiofal, pryderwch,ymysgydwch o'ch difrawder.Tynnwch eich dillad ac ymnoethi;rhowch sachliain am eich lwynau.
12 Curwch eich bronnauam y meysydd braf a'r gwinwydd ffrwythlon,
13 am dir fy mhobl, sy'n tyfu drain a mieri,ac am yr holl dai diddan yn y ddinas lon.
14 Canys cefnwyd ar y palas,a gwacawyd y ddinas boblog.Aeth y gaer a'r tŵr yn ogofeydd am byth,yn hyfrydwch i'r asynnod gwylltac yn borfa i'r preiddiau.