2 Canys y mae dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr holl bobl,a'i lid ar eu holl luoedd;difroda hwy a'u rhoi i'w lladd.
3 Bwrir allan eu lladdedigion,cyfyd drewdod o'u celanedd,a throchir y mynyddoedd â'u gwaed.
4 Malurir holl lu'r nefoedd,plygir yr wybren fel sgrôl,a chwymp ei holl lu,fel cwympo dail oddi ar winwyddena ffrwyth aeddfed oddi ar ffigysbren.
5 Canys ymddengys cleddyf yr ARGLWYDD yn y nef;wele, fe ddisgyn ar Edom,ar y bobl a ddedfryda i farn.
6 Y mae gan yr ARGLWYDD gleddyfwedi ei drochi mewn gwaed a'i besgi ar fraster,ar waed ŵyn a bychod a braster arennau hyrddod.Y mae gan yr ARGLWYDD aberth yn Bosra,a lladdfa fawr yn nhir Edom.
7 Daw ychen gwyllt i lawr gyda hwy,a bustych gyda theirw;mwydir eu tir gan waed,a bydd eu pridd yn doreithiog gan y braster.
8 Canys y mae gan yr ARGLWYDD ddydd dial,a chan amddiffynnydd Seion flwyddyn talu'r pwyth.