1 Llawenyched yr anial a'r sychdir,gorfoledded y diffeithwch, a blodeuo.
2 Blodeued fel maes o saffrwn,a gorfoleddu â llawenydd a chân.Rhodder gogoniant Lebanon iddo,mawrhydi Carmel a Saron;cânt weld gogoniant yr ARGLWYDD,a mawrhydi ein Duw ni.
3 Cadarnhewch y dwylo llesg,cryfhewch y gliniau gwan;
4 dywedwch wrth y pryderus, “Ymgryfhewch, nac ofnwch.Wele, fe ddisgyn ar Edom,ar y bobl a ddedfryda i farn.