5 Yna fe agorir llygaid y deilliona chlustiau'r byddariaid;
6 fe lama'r cloff fel hydd,fe gân tafod y mudan;tyr dyfroedd allan yn yr anialwch,ac afonydd yn y diffeithwch;
7 bydd y crastir yn llyn,a'r tir sych yn ffynhonnau byw;yn y tir garw, lle cyrcha'r siacal,bydd gweirglodd o gorsennau a brwyn.
8 Yno bydd priffordd a ffordd,a gelwir hi yn ffordd sanctaidd;ni bydd yr halogedig yn mynd ar hyd-ddi;bydd yn ffordd i'r pererin,ac nid i'r cyfeiliorn, i grwydro ar hyd-ddi.
9 Ni ddaw llew yno,ni ddring bwystfil rheibus iddi—ni cheir y rheini yno.Ond y rhai a ryddhawyd fydd yn rhodio arni,
10 a gwaredigion yr ARGLWYDD fydd yn dychwelyd.Dônt i Seion dan ganu,bob un gyda llawenydd tragwyddol;hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd,a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.