1 Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Trefna dy dŷ, oherwydd rwyt ar fin marw; ni fyddi fyw.’ ”
2 Troes Heseceia ei wyneb at y pared a gweddïo ar yr ARGLWYDD,
3 a dweud, “O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di â chywirdeb a chalon berffaith, ac yn gwneud yr hyn oedd dda yn dy olwg.” Ac fe wylodd Heseceia'n chwerw.
4 Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Eseia a dweud,
5 “Dos, dywed wrth Heseceia, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; yn awr rwyf am ychwanegu pymtheng mlynedd at dy ddyddiau.
6 A gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon.