1 Cysurwch, cysurwch fy mhobl—dyna a ddywed eich Duw.
2 Siaradwch yn dyner wrth Jerwsalem,a dywedwch wrthiei bod wedi cwblhau ei thymor gwasanaetha bod ei chosb wedi ei thalu,ei bod wedi derbyn yn ddwbl oddi ar law'r ARGLWYDDam ei holl bechodau.
3 Llais un yn galw,“Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD,unionwch yn y diffeithwch briffordd i'n Duw ni.
4 Caiff pob pant ei godi,pob mynydd a bryn ei ostwng;gwneir y tir ysgythrog yn llyfn,a'r tir anwastad yn wastadedd.
5 Datguddir gogoniant yr ARGLWYDD,a phawb ynghyd yn ei weld.Genau'r ARGLWYDD a lefarodd.”
6 Llais un yn dweud, “Galw”;a daw'r ateb, “Beth a alwaf?Y mae pob un meidrol fel glaswellt,a'i holl nerth fel blodeuyn y maes.