10 Wele'r Arglwydd DDUWyn dod mewn nerth,yn rheoli â'i fraich.Wele, y mae ei wobr ganddo,a'i dâl gydag ef.
11 Y mae'n porthi ei braidd fel bugail,ac â'i fraich yn eu casglu ynghyd;y mae'n cludo'r ŵyn yn ei gôl,ac yn coleddu'r mamogiaid.
12 Pwy a fesurodd y dyfroedd yng nghledr ei law,a gosod terfyn y nefoedd â'i rychwant?Pwy a roes holl bridd y ddaear mewn mantol,a phwyso'r mynyddoedd mewn tafol,a'r bryniau mewn clorian?
13 Pwy a gyfarwydda ysbryd yr ARGLWYDD,a bod yn gynghorwr i'w ddysgu?
14 Â phwy yr ymgynghora ef i ennill deall,a phwy a ddysg iddo lwybrau barn?Pwy a ddysg iddo wybodaeth,a'i gyfarwyddo yn llwybrau deall?
15 Y mae'r cenhedloedd fel defnyn allan o gelwrn,i'w hystyried fel mân lwch y cloriannau;y mae'r ynysoedd mor ddibwys â'r llwch ar y llawr.
16 Nid oes yn Lebanon ddigon o goed i roi tanwydd,na digon o anifeiliaid ar gyfer poethoffrwm.