17 Nid yw'r holl genhedloedd yn ddim ger ei fron ef;y maent yn llai na dim, ac i'w hystyried yn ddiddim.
18 I bwy, ynteu, y cyffelybwch Dduw?Pa lun a dynnwch ohono?
19 Ai delw? Crefftwr sy'n llunio honno,ac eurych yn ei goreuroac yn gwneud cadwyni arian iddi.
20 Y mae un sy'n rhy dlawd i wneud hynnyyn dewis darn o bren na phydra,ac yn ceisio crefftwr cywraini'w osod i fyny'n ddelw na ellir ei syflyd.
21 Oni wyddoch? Oni chlywsoch?Oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad?Onid ydych wedi amgyffred er sylfaenu'r ddaear?
22 Y mae ef yn eistedd ar gromen y ddaear,a'i thrigolion yn ymddangos fel locustiaid.Y mae'n taenu'r nefoedd fel llen,ac yn ei lledu fel pabell i drigo ynddi.
23 Y mae'n gwneud y mawrion yn ddiddim,a rheolwyr y ddaear yn dryblith.