22 Y mae ef yn eistedd ar gromen y ddaear,a'i thrigolion yn ymddangos fel locustiaid.Y mae'n taenu'r nefoedd fel llen,ac yn ei lledu fel pabell i drigo ynddi.
23 Y mae'n gwneud y mawrion yn ddiddim,a rheolwyr y ddaear yn dryblith.
24 Prin eu bod wedi eu plannu na'u hau,prin bod eu gwraidd wedi cydio yn y pridd,nag y bydd ef yn chwythu arnynt, a hwythau'n gwywo,a chorwynt yn eu dwyn ymaith fel us.
25 “I bwy, ynteu, y cyffelybwch fi?Tebyg i bwy?” meddai'r Sanct.
26 Codwch eich llygaid i fyny;edrychwch, pwy a fu'n creu'r pethau hyn?Pwy a fu'n galw allan eu llu fesul unac yn rhoi enw i bob un ohonynt?Gan faint ei nerth, a'i fod mor eithriadol gryf,nid oes yr un ar ôl.
27 Pam y dywedi, O Jacob,ac y lleferi, O Israel,“Cuddiwyd fy nghyflwr oddi wrth yr ARGLWYDD,ac aeth fy hawliau o olwg fy Nuw”?
28 Oni wyddost, oni chlywaist?Duw tragwyddol yw'r ARGLWYDDa greodd gyrrau'r ddaear;ni ddiffygia ac ni flina,ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy.