6 Llais un yn dweud, “Galw”;a daw'r ateb, “Beth a alwaf?Y mae pob un meidrol fel glaswellt,a'i holl nerth fel blodeuyn y maes.
7 Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywopan chwyth anadl yr ARGLWYDD arno.Yn wir, glaswellt yw'r bobl.
8 Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo;ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth.”
9 Dring i fynydd uchel;ti, Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da,cod dy lais yn gryf;ti, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da,gwaedda, paid ag ofni.Dywed wrth ddinasoedd Jwda,“Dyma eich Duw chwi.”
10 Wele'r Arglwydd DDUWyn dod mewn nerth,yn rheoli â'i fraich.Wele, y mae ei wobr ganddo,a'i dâl gydag ef.
11 Y mae'n porthi ei braidd fel bugail,ac â'i fraich yn eu casglu ynghyd;y mae'n cludo'r ŵyn yn ei gôl,ac yn coleddu'r mamogiaid.
12 Pwy a fesurodd y dyfroedd yng nghledr ei law,a gosod terfyn y nefoedd â'i rychwant?Pwy a roes holl bridd y ddaear mewn mantol,a phwyso'r mynyddoedd mewn tafol,a'r bryniau mewn clorian?