1 “Rhowch sylw astud i mi, chwi ynysoedd,bydded i'r bobl nesáu;bydded iddynt nesáu a llefaru;down ynghyd i farn.
2 “Pwy sy'n codi un o'r dwyrain,a buddugoliaeth yn ei gyfarfod bob cam?Y mae'n bwrw cenhedloedd i lawr o'i flaen,ac yn darostwng brenhinoedd.Y mae'n eu gwneud fel llwch â'i gleddyf,fel us yn chwyrlïo â'i fwa.
3 Y mae'n eu hymlid, ac yn tramwyo'n ddiogelar hyd llwybr na throediodd o'r blaen.
4 Pwy a wnaeth ac a gyflawnodd hyn,a galw'r cenedlaethau o'r dechreuad?Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r dechrau,a myfi sydd yno yn y diwedd hefyd.”
5 Gwelodd yr ynysoedd, ac ofni;daeth cryndod ar eithafion byd;daethant, a nesáu.