15 “Yn awr, fe'th wnaf yn fen ddyrnu—un newydd, ddanheddog a miniog;byddi'n dyrnu'r mynyddoedd a'u malu,ac yn gwneud y bryniau fel us.
16 Byddi'n eu nithio, a'r gwynt yn eu chwythu i ffwrdd,a'r dymestl yn eu gwasgaru.Ond byddi di'n llawenychu yn yr ARGLWYDDac yn ymhyfrydu yn Sanct Israel.
17 “Pan fydd y tlawd a'r anghenus yn chwilio am ddŵr, heb ei gael,a'u tafodau'n gras gan syched,byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn eu hateb;ni fyddaf fi, Duw Israel, yn eu gadael.
18 Agoraf afonydd ar ben y moelydd,a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd;gwnaf y diffeithwch yn llynnoedd,a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd.
19 Plannaf yn yr anialwch gedrwydd,acasia, myrtwydd ac olewydd;gosodaf ynghyd yn y diffeithwchffynidwydd, ffawydd a phren bocs.
20 Felly cânt weld a gwybod,ystyried ac amgyffredmai llaw'r ARGLWYDD a wnaeth hyn,ac mai Sanct Israel a'i creodd.”
21 “Gosodwch eich achos gerbron,” medd yr ARGLWYDD.“Cyflwynwch eich dadleuon,” medd brenin Jacob.