2 “Pwy sy'n codi un o'r dwyrain,a buddugoliaeth yn ei gyfarfod bob cam?Y mae'n bwrw cenhedloedd i lawr o'i flaen,ac yn darostwng brenhinoedd.Y mae'n eu gwneud fel llwch â'i gleddyf,fel us yn chwyrlïo â'i fwa.
3 Y mae'n eu hymlid, ac yn tramwyo'n ddiogelar hyd llwybr na throediodd o'r blaen.
4 Pwy a wnaeth ac a gyflawnodd hyn,a galw'r cenedlaethau o'r dechreuad?Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r dechrau,a myfi sydd yno yn y diwedd hefyd.”
5 Gwelodd yr ynysoedd, ac ofni;daeth cryndod ar eithafion byd;daethant, a nesáu.
6 Y mae pawb yn helpu ei gilydd,a'r naill yn dweud wrth y llall, “Ymgryfha.”
7 Y mae'r crefftwr yn annog yr eurych,a'r un sy'n llyfnhau â'r morthwylyn annog yr un sy'n taro ar yr eingion;y mae'n dyfarnu bod y sodro'n iawn,ac yn sicrhau'r ddelw â hoelion rhag iddi symud.
8 “Ti, Israel, yw fy ngwas;ti, Jacob, a ddewisais,had Abraham, f'anwylyd.