24 Yn wir, nid ydych chwi'n ddim,ac nid yw'ch gwaith ond diddim.Ffieiddbeth yw'r un sy'n eich dewis.
25 “Codais un o'r gogledd, ac fe ddaeth,un o'r dwyrain, ac fe eilw ar f'enw;y mae'n sathru rhaglawiaid fel pridd,ac fel crochenydd yn sathru clai.
26 Pwy a fynegodd hyn o'r dechreuad, inni gael gwybod,neu ei ddweud ymlaen llaw, inni gael ei ategu?Nid oes neb wedi dweud na mynegi dim,ac ni chlywodd neb eich ymadrodd.
27 Gosodaf un i lefaru'n gyntaf wrth Seion,ac i gyhoeddi newyddion da i Jerwsalem.
28 Pan edrychaf, nid oes neb yno;nid oes cynghorwr yn eu plitha all ateb pan ofynnaf.
29 Yn wir, nid ydynt i gyd ond dim;llai na dim yw eu gwaith,gwynt a gwagedd yw eu delwau.”