8 “Ti, Israel, yw fy ngwas;ti, Jacob, a ddewisais,had Abraham, f'anwylyd.
9 Dygais di o bellteroedd byd,a'th alw o'i eithafion,a dweud wrthyt, ‘Fy ngwas wyt ti;rwyf wedi dy ddewis ac nid dy wrthod.’
10 Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi;paid â dychryn, myfi yw dy Dduw.Cryfhaf di a'th nerthu,cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
11 Yn awr cywilyddir a gwaradwyddirpob un sy'n digio wrthyt;bydd pob un sy'n ymrafael â thiyn mynd yn ddim ac yn diflannu.
12 Byddi'n chwilio am y rhai sy'n ymosod arnat,ond heb eu cael;bydd pob un sy'n rhyfela yn dy erbynyn mynd yn ddim, ac yn llai na dim.
13 Canys myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw,sy'n gafael yn dy law dde,ac yn dweud wrthyt, ‘Paid ag ofni,yr wyf fi'n dy gynorthwyo.’
14 “Paid ag ofni, ti'r pryfyn Jacob,na thithau'r lleuen Israel;byddaf fi'n dy gynorthwyo,” medd yr ARGLWYDD,Sanct Israel, dy Waredydd.