20 Yn wir y mae'n ymborthi ar ludw,a'i feddwl crwydredig wedi ei yrru ar gyfeiliorn;ni all ei waredu ei hun a dweud,“Onid twyll yw'r hyn sydd yn fy llaw?”
21 “Ystyria hyn, Jacob,oherwydd fy ngwas wyt ti, Israel.Lluniais di, gwas i mi wyt ti;O Israel, paid â'm hanghofio.
22 Dileais dy gamweddau fel cwmwl,a'th bechodau fel niwl;dychwel ataf, canys yr wyf wedi dy waredu.”
23 Canwch, nefoedd, oherwydd yr ARGLWYDD a wnaeth hyn;gwaeddwch, ddyfnderoedd daear;bloeddiwch, O fynyddoedd,a'r goedwig a phob coeden o'i mewn;y mae'r ARGLWYDD wedi gwaredu Jacob,a chael gogoniant yn Israel.
24 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, dy Waredydd,a'r hwn a'th luniodd o'r groth:“Myfi, yr ARGLWYDD, a wnaeth y cyfan—estyn y nefoedd fy hunan,a lledu'r ddaear heb neb gyda mi;
25 diddymu arwyddion celwyddog,gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n dewino;troi doethion yn eu hôl,a gwneud eu gwybodaeth yn ynfydrwydd;
26 cadarnhau gair ei was,a chyflawni cyngor ei genhadon;dweud wrth Jerwsalem, ‘Fe'th breswylir’,ac wrth ddinasoedd Jwda, ‘Fe'ch adeiledircyfodaf drachefn eich adfeilion’;