25 diddymu arwyddion celwyddog,gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n dewino;troi doethion yn eu hôl,a gwneud eu gwybodaeth yn ynfydrwydd;
26 cadarnhau gair ei was,a chyflawni cyngor ei genhadon;dweud wrth Jerwsalem, ‘Fe'th breswylir’,ac wrth ddinasoedd Jwda, ‘Fe'ch adeiledircyfodaf drachefn eich adfeilion’;
27 dweud wrth y dyfnder, ‘Bydd sych,rwy'n sychu hefyd d'afonydd’;
28 dweud wrth Cyrus, ‘Fy Mugail’,ac fe gyflawna fy holl fwriad;dweud wrth Jerwsalem, ‘Fe'th adeiledir’,ac wrth y deml, ‘Fe'th sylfaenir’.”