3 Tywalltaf ddyfroedd ar y tir sychediga ffrydiau ar y sychdir;tywalltaf fy ysbryd ar dy hada'm bendith ar dy hiliogaeth.
4 Tarddant allan fel glaswellt,fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.
5 Dywed un, ‘Rwyf fi'n perthyn i'r ARGLWYDD’;bydd un arall yn cymryd enw Jacob,ac un arall drachefn yn ei arwyddo'i hun, ‘Eiddo'r ARGLWYDD’,ac yn ei gyfenwi ei hun, ‘Israel’.”
6 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, brenin Israel, ARGLWYDD y Lluoedd, ei Waredydd:“Myfi yw'r cyntaf, a myfi yw'r olaf;nid oes duw ond myfi.
7 Pwy sy'n debyg i mi? Bydded iddo ddatgan,a mynegi a gosod ei achos ger fy mron.Pwy a gyhoeddodd erstalwm y pethau sydd i ddod?Dyweded wrthym beth sydd i ddigwydd.
8 Peidiwch ag ofni na dychryn;oni ddywedais wrthych erstalwm?Fe fynegais, a chwi yw fy nhystion.A oes duw ond myfi?Nid oes craig. Ni wn i am un.”
9 Y mae pawb sy'n gwneud eilunod yn ddiddim,ac nid oes lles yng ngwrthrych eu serch;y mae eu tystion heb weld a heb wybod,ac o'r herwydd fe'u cywilyddir.