3 Rhof iti drysorau o leoedd tywyll,wedi eu cronni mewn mannau dirgel,er mwyn iti wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,Duw Israel, sy'n dy gyfarch wrth dy enw.
4 Er mwyn fy ngwas Jacob,a'm hetholedig Israel,gelwais di wrth dy enw,a'th gyfenwi, er na'm hadwaenit.
5 Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;ar wahân i mi nid oes Duw.Gwregysais di, er na'm hadwaenit,
6 er mwyn iddynt wybod,o godiad haul hyd ei fachlud,nad oes neb ond myfi.Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall,
7 yn llunio goleuniac yn creu tywyllwch,yn peri llwyddiant ac yn achosi methiant;myfi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cyfan.
8 “Defnynnwch oddi fry, O nefoedd;tywallted yr wybren gyfiawnder.Agored y ddaear, er mwyn i iachawdwriaeth eginoac i gyfiawnder flaguro.Myfi, yr ARGLWYDD, a'i gwnaeth.
9 “Gwae'r sawl sy'n ymryson â'i luniwr,darn o lestr yn erbyn y crochenydd.A ddywed y clai wrth ei luniwr, ‘Beth wnei di?’neu, ‘Nid oes graen ar dy waith’?