1 “Disgyn, ac eistedd yn y lludw,ti, ferch wyry Babilon.Eistedd ar y llawr yn ddiorsedd,ti, ferch y Caldeaid;ni'th elwir byth eto yn dyner a moethus.
2 Cymer y meini melin i falu blawd,tyn dy orchudd,rhwyga dy sgert, dangos dy gluniau,rhodia trwy ddyfroedd.
3 Dangoser dy noethni,a gweler dy warth.Dygaf ddial, ac nid arbedaf neb.”
4 Ein Gwaredydd yw Sanct Israel; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
5 “Eistedd yn fud, dos i'r tywyllwch,ti, ferch y Caldeaid;ni'th elwir byth eto yn arglwyddes y teyrnasoedd.
6 Digiais wrth fy mhobl,halogais fy etifeddiaeth,rhoddais hwy yn dy law;ond ni chymeraist drugaredd arnynt,gwnaethost yr iau yn drwm ar yr oedrannus.
7 Dywedaist, ‘Byddaf yn arglwyddes hyd byth’,ond nid oeddit yn ystyried hyn,nac yn cofio sut y gallai ddiweddu.