10 “Pan oeddit yn ymddiried yn dy ddrygioni,dywedaist, ‘Does neb yn fy ngweld.’Roedd dy ddoethineb a'th wybodaeth yn dy gamarwain,a dywedaist, ‘Myfi, does neb ond myfi.’
11 Ond fe ddaw arnat ti ddinistrna wyddost sut i'w swyno;fe ddisgyn arnat ddistrywna elli mo'i ochelyd.Daw trychineb arnat yn sydyn,heb yn wybod iti.
12 “Glŷn wrth dy swynion a'th hudoliaethau amly buost yn ymflino â hwy o'th ieuenctid—efallai y cei help ganddynt;efallai y medri godi arswyd drwyddynt.
13 Rwyt wedi dy lethu gan nifer dy gynghorwyr;bydded iddynt sefyll yn awr a'th achub—dewiniaid y nefoedd a gwylwyr y sêr,sy'n proffwydo bob mis yr hyn a ddigwydd iti.
14 Edrych, y maent fel us, a'r tân yn eu hysu;ni fedrant eu harbed eu hunain rhag y fflam.Nid glo i dwymo wrtho yw hwn,nid tân i eistedd o'i flaen.
15 Fel hyn y bydd y rhai y buost yn ymflino â hwyac yn ymhél â hwy o'th ieuenctid;trônt ymaith bob un i'w ffordd ei hun,heb allu dy waredu.”