5 “Eistedd yn fud, dos i'r tywyllwch,ti, ferch y Caldeaid;ni'th elwir byth eto yn arglwyddes y teyrnasoedd.
6 Digiais wrth fy mhobl,halogais fy etifeddiaeth,rhoddais hwy yn dy law;ond ni chymeraist drugaredd arnynt,gwnaethost yr iau yn drwm ar yr oedrannus.
7 Dywedaist, ‘Byddaf yn arglwyddes hyd byth’,ond nid oeddit yn ystyried hyn,nac yn cofio sut y gallai ddiweddu.
8 Yn awr, ynteu, gwrando ar hyn,y foethus, sy'n eistedd mor gyfforddus,sy'n dweud wrthi ei hun, ‘Myfi, does neb ond myfi.Ni fyddaf fi'n eistedd yn weddw,nac yn gwybod beth yw colli plant.’
9 Fe ddaw'r ddau beth hyn arnatar unwaith, yr un diwrnod—colli plant a gweddwdod,a'r ddau'n dod arnat yn llawn,er bod dy hudoliaeth yn amla'th swynion yn nerthol.
10 “Pan oeddit yn ymddiried yn dy ddrygioni,dywedaist, ‘Does neb yn fy ngweld.’Roedd dy ddoethineb a'th wybodaeth yn dy gamarwain,a dywedaist, ‘Myfi, does neb ond myfi.’
11 Ond fe ddaw arnat ti ddinistrna wyddost sut i'w swyno;fe ddisgyn arnat ddistrywna elli mo'i ochelyd.Daw trychineb arnat yn sydyn,heb yn wybod iti.