1 Gwrandewch arnaf, chwi ynysoedd,rhowch sylw, chwi bobl o bell.Galwodd yr ARGLWYDD fi o'r groth;o fru fy mam fe'm henwodd.
2 Gwnaeth fy ngenau fel cleddyf llym,a'm cadw yng nghysgod ei law;gwnaeth fi yn saeth loyw,a'm cuddio yng nghawell ei saethau.
3 Dywedodd wrthyf, “Fy ngwas wyt ti;ynot ti, Israel, y caf ogoniant.”
4 Dywedais innau, “Llafuriais yn ofer,a threuliais fy nerth i ddim;er hynny y mae fy achos gyda'r ARGLWYDDa'm gwobr gyda'm Duw.”