19 Bydd dy ddiffeithwch a'th anialwch a'th dir anrhaithyn rhy gyfyng bellach i'th breswylwyr,gan fod dy ddifodwyr ymhell i ffwrdd.
20 Bydd y plant a anwyd yn nydd dy alaryn dweud eto'n hyglyw,‘Nid oes digon o le i mi;symud draw, i mi gael lle i fyw.’
21 “Yna y dywedi ynot dy hun,‘Pwy a genhedlodd y rhain i mi,a minnau'n weddw ac yn ddi-blant?Yr oeddwn i mewn caethglud ac yn ddigartref;pwy a'u magodd hwy?Yn wir, roeddwn i wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun;o ble, ynteu, y daeth y rhain?’ ”
22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:“Rhof arwydd â'm llaw i'r cenhedloedd,a chodaf fy maner i'r bobloedd,a dygant dy feibion yn eu mynwes,a chludo dy ferched ar eu hysgwydd.
23 Bydd brenhinoedd yn dadau maeth iti,a'u tywysogesau yn famau maeth iti;plygant i'r llawr o'th flaena llyfu llwch dy draed;yna y cei wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,ac na siomir neb sy'n disgwyl wrthyf.”
24 A ddygir ysbail oddi ar y cadarn?A ryddheir carcharor o law'r gormeswr?
25 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Fe ddygir carcharor o law'r cadarn,ac fe ryddheir ysbail o law'r gormeswr;myfi fydd yn dadlau â'th gyhuddwr,ac yn gwaredu dy blant.