6 Dywedodd, “Peth bychan yw i ti fod yn was i mi,i godi llwythau Jacob ar eu traed,ac adfer rhai cadwedig Israel;fe'th wnaf di yn oleuni i'r cenhedloedd,i'm hiachawdwriaeth gyrraedd hyd eithaf y ddaear.”
7 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,Gwaredydd Israel, a'i Sanct,wrth yr un a ddirmygir ac a ffieiddir gan bobloedd,wrth gaethwas y trahaus:“Bydd brenhinoedd yn sefyll pan welant,a'r tywysogion yn ymgrymu,o achos yr ARGLWYDD, sy'n ffyddlon,a Sanct Israel, a'th ddewisodd di.”
8 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Atebaf di yn adeg ffafr,a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth;cadwaf di, a'th osod yn gyfamod i'r bobl;adferaf y tir a rhannu'r tiroedd anrhaith yn etifeddiaeth;
9 a dywedaf wrth y carcharorion, ‘Ewch allan’,ac wrth y rhai mewn tywyllwch, ‘Dewch i'r golau’.Cânt bori ar fin y ffyrdda chael porfa ar y moelydd.
10 Ni newynant ac ni sychedant,ni fydd gwres na haul yn eu taro,oherwydd un sy'n tosturio wrthynt sy'n eu harwain,ac yn eu tywys at ffynhonnau o ddŵr.
11 Gwnaf bob mynydd yn ffordd,a llenwi o dan fy llwybrau.
12 Y mae rhai yn dod o bell,a rhai o'r gogledd a'r gorllewin,ac eraill o wlad Sinim.”