13 Am hynny, caethgludir fy mhoblo ddiffyg gwybodaeth;bydd eu bonedd yn trengi o newyna'u gwerin yn gwywo gan syched.
14 Am hynny, lledodd Sheol ei llwnc,ac agor ei cheg yn ddiderfyn;fe lyncir y bonedd a'r werin,ei thyrfa a'r sawl a ymffrostia ynddi.
15 Darostyngir gwreng a bonedd,a syrth llygad y balch;
16 ond dyrchefir ARGLWYDD y Lluoedd mewn barn,a sancteiddir y Duw sanctaidd mewn cyfiawnder.
17 Yna bydd ŵyn yn pori fel yn eu cynefin,a'r mynnod geifr yn bwyta ymysg yr adfeilion.
18 Gwae'r rhai sy'n tynnu drygioni â rheffynnau oferedd,a phechod megis â rhaffau men,
19 y rhai sy'n dweud, “Brysied,prysured gyda'i orchwyl, inni gael gweld;doed pwrpas Sanct Israel i'r golwg, inni wybod beth yw.”