2 fe'i cloddiodd, a'i digaregu;fe'i plannodd â'r gwinwydd gorau;cododd dŵr yn ei chanol,a naddu gwinwryf ynddi.Disgwyliodd iddi ddwyn grawnwin,ond fe ddygodd rawn drwg.
3 Yn awr, breswylwyr Jerwsalem,a chwi, bobl Jwda,barnwch rhyngof fi a'm gwinllan.
4 Beth oedd i'w wneud i'm gwinllan,yn fwy nag a wneuthum?Pam, ynteu, pan ddisgwyliwn iddi ddwyn grawnwin,y dygodd rawn drwg?
5 Yn awr, mi ddywedaf wrthychbeth a wnaf i'm gwinllan.Tynnaf ymaith ei chlawdd,ac fe'i difethir;chwalaf ei mur,ac fe'i sethrir dan draed;
6 gadawaf hi wedi ei difrodi;ni chaiff ei thocio na'i hofio;fe dyf ynddi fieri a drain,a gorchmynnaf i'r cymylaubeidio â glawio arni.
7 Yn wir, gwinllan ARGLWYDD y Lluoedd yw tŷ Israel,a phobl Jwda yw ei blanhigyn dethol;disgwyliodd gael barn, ond cafodd drais;yn lle cyfiawnder fe gafodd gri.
8 Gwae'r rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ,sy'n chwanegu cae at gaenes llyncu pob man,a'ch gadael chwi'n unig yng nghanol y tir.