1 Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion;ymwisga yn dy ddillad godidog,O Jerwsalem, y ddinas sanctaidd;oherwydd ni ddaw i mewn iti mwyachneb dienwaededig nac aflan.
2 Cod, ymysgwyd o'r llwch, ti Jerwsalem gaeth;tyn y rhwymau oddi ar dy war, ti gaethferch Seion.
3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Gwerthwyd chwi am ddim,ac fe'ch gwaredir heb arian.”
4 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw:“Yn y dechrau, i'r Aifft yr aeth fy mhobl i ymdeithio,ac yna bu Asyria'n eu gormesu'n ddiachos.
5 Ond yn awr, beth a gaf yma?” medd yr ARGLWYDD.“Y mae fy mhobl wedi eu dwyn ymaith am ddim,eu gorthrymwyr yn llawn ymffrost,” medd yr ARGLWYDD,“a'm henw'n cael ei ddilorni o hyd,drwy'r dydd.
6 Am hynny, fe gaiff fy mhobl adnabod fy enw;y dydd hwnnw cânt wybodmai myfi yw Duw, sy'n dweud, ‘Dyma fi.’ ”