10 Dinoethodd yr ARGLWYDD ei fraich sanctaiddyng ngŵydd yr holl genhedloedd,ac fe wêl holl gyrrau'r ddaeariachawdwriaeth ein Duw ni.
11 Allan! Allan! Ymaith â chwi!Peidiwch â chyffwrdd â dim aflan.Ewch allan o'i chanol, glanhewch eich hunain,chwi sy'n cludo llestri'r ARGLWYDD.
12 Nid ar ffrwst yr ewch allan,ac nid fel ffoaduriaid y byddwch yn ymadael,oherwydd bydd yr ARGLWYDD ar y blaen,a Duw Israel y tu cefn i chwi.
13 Yn awr, bydd fy ngwas yn llwyddo;fe'i codir, a'i ddyrchafu, a bydd yn uchel iawn.
14 Ar y pryd roedd llawer yn synnu ato—roedd ei wedd yn rhy hagr i ddyn,a'i bryd yn hyllach na neb dynol,
15 a phobloedd lawer yn troi i ffwrdd rhag ei weld,a brenhinoedd yn fud o'i blegid.Ond byddant yn gweld peth nas eglurwyd iddynt,ac yn deall yr hyn na chlywsant amdano.