3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Gwerthwyd chwi am ddim,ac fe'ch gwaredir heb arian.”
4 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw:“Yn y dechrau, i'r Aifft yr aeth fy mhobl i ymdeithio,ac yna bu Asyria'n eu gormesu'n ddiachos.
5 Ond yn awr, beth a gaf yma?” medd yr ARGLWYDD.“Y mae fy mhobl wedi eu dwyn ymaith am ddim,eu gorthrymwyr yn llawn ymffrost,” medd yr ARGLWYDD,“a'm henw'n cael ei ddilorni o hyd,drwy'r dydd.
6 Am hynny, fe gaiff fy mhobl adnabod fy enw;y dydd hwnnw cânt wybodmai myfi yw Duw, sy'n dweud, ‘Dyma fi.’ ”
7 Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y negesyddsy'n cyhoeddi heddwch, yn datgan daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth;sy'n dweud wrth Seion, “Dy Dduw sy'n teyrnasu.”
8 Clyw, y mae dy wylwyr yn codi eu llaisac yn bloeddio'n llawen gyda'i gilydd;â'u llygaid eu hunain y gwelantyr ARGLWYDD yn dychwelyd i Seion.
9 Bloeddiwch, cydganwch, chwi adfeilion Jerwsalem,oherwydd tosturiodd yr ARGLWYDD wrth ei bobl,a gwaredodd Jerwsalem.