9 Bloeddiwch, cydganwch, chwi adfeilion Jerwsalem,oherwydd tosturiodd yr ARGLWYDD wrth ei bobl,a gwaredodd Jerwsalem.
10 Dinoethodd yr ARGLWYDD ei fraich sanctaiddyng ngŵydd yr holl genhedloedd,ac fe wêl holl gyrrau'r ddaeariachawdwriaeth ein Duw ni.
11 Allan! Allan! Ymaith â chwi!Peidiwch â chyffwrdd â dim aflan.Ewch allan o'i chanol, glanhewch eich hunain,chwi sy'n cludo llestri'r ARGLWYDD.
12 Nid ar ffrwst yr ewch allan,ac nid fel ffoaduriaid y byddwch yn ymadael,oherwydd bydd yr ARGLWYDD ar y blaen,a Duw Israel y tu cefn i chwi.
13 Yn awr, bydd fy ngwas yn llwyddo;fe'i codir, a'i ddyrchafu, a bydd yn uchel iawn.
14 Ar y pryd roedd llawer yn synnu ato—roedd ei wedd yn rhy hagr i ddyn,a'i bryd yn hyllach na neb dynol,
15 a phobloedd lawer yn troi i ffwrdd rhag ei weld,a brenhinoedd yn fud o'i blegid.Ond byddant yn gweld peth nas eglurwyd iddynt,ac yn deall yr hyn na chlywsant amdano.