3 Roedd wedi ei ddirmygu a'i wrthod gan eraill,yn ŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur;yr oeddem fel pe'n cuddio'n hwynebau oddi wrtho,yn ei ddirmygu ac yn ei anwybyddu.
4 Eto, ein dolur ni a gymerodd,a'n gwaeledd ni a ddygodd—a ninnau'n ei gyfrif wedi ei glwyfoa'i daro gan Dduw, a'i ddarostwng.
5 Ond archollwyd ef am ein troseddau ni,a'i ddryllio am ein camweddau ni;roedd pris ein heddwch ni arno ef,a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd.
6 Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid,pob un yn troi i'w ffordd ei hun;a rhoes yr ARGLWYDD arno efein beiau ni i gyd.
7 Fe'i gorthrymwyd a'i ddarostwng,ond nid agorai ei enau;arweiniwyd ef fel oen i'r lladdfa,ac fel y bydd dafad yn ddistaw yn llaw'r cneifiwr,felly nid agorai yntau ei enau.
8 Cymerwyd ef ymaith heb ei roi ar brawf na'i farnu—pwy oedd yn malio am ei dynged?Fe'i torrwyd o dir y rhai byw,a'i daro am drosedd fy mhobl.
9 Rhoddwyd iddo fedd gyda'r rhai drygionus,a beddrod gyda'r troseddwyr,er na wnaethai niwed i nebac nad oedd twyll yn ei enau.