8 Cymerwyd ef ymaith heb ei roi ar brawf na'i farnu—pwy oedd yn malio am ei dynged?Fe'i torrwyd o dir y rhai byw,a'i daro am drosedd fy mhobl.
9 Rhoddwyd iddo fedd gyda'r rhai drygionus,a beddrod gyda'r troseddwyr,er na wnaethai niwed i nebac nad oedd twyll yn ei enau.
10 Yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllioa gwneud iddo ddioddef.Pan rydd ei fywyd yn aberth dros bechod,fe wêl ei had, fe estyn ei ddyddiau,ac fe lwydda ewyllys yr ARGLWYDD yn ei law ef.
11 Wedi helbulon ei fywyd fe wêl oleuni,a chael ei fodloni yn ei wybodaeth;bydd fy ngwas yn cyfiawnhau llawer,ac yn dwyn eu camweddau.
12 Am hynny rhof iddo ran gyda'r mawrionac fe ranna'r ysbail gyda'r cedyrn,oherwydd iddo dywallt ei fywyd i farwolaeth,a chael ei gyfrif gyda throseddwyr,a dwyn pechodau llaweroedd,ac eiriol dros y troseddwyr.