2 Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwneud felly,a'r un sy'n glynu wrth hyn,yn cadw'r Saboth heb ei halogi,ac yn ymgadw rhag gwneud unrhyw ddrwg.”
3 Na ddyweded y dieithryn a lynodd wrth yr ARGLWYDD,“Yn wir y mae'r ARGLWYDD yn fy ngwahanu oddi wrth ei bobl.”Na ddyweded yr eunuch, “Pren crin wyf fi.”
4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“I'r eunuchiaid sy'n cadw fy Sabothauac yn dewis y pethau a hoffafac yn glynu wrth fy nghyfamod,
5 y rhof yn fy nhŷ ac oddi mewn i'm muriaugofgolofn ac enw a fydd yn well na meibion a merched;rhof iddynt enw parhaol nas torrir ymaith.
6 A'r dieithriaid sy'n glynu wrth yr ARGLWYDD,yn ei wasanaethu ac yn caru ei enw,sy'n dod yn weision iddo ef,yn cadw'r Saboth heb ei halogiac yn glynu wrth fy nghyfamod—
7 dygaf y rhain i'm mynydd sanctaidd,a rhof iddynt lawenydd yn fy nhŷ gweddi,a derbyn eu poethoffrwm a'u haberth ar fy allor;oherwydd gelwir fy nhŷ yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd,”
8 medd yr Arglwydd DDUW,sy'n casglu alltudion Israel.“Casglaf ragor eto at y rhai sydd wedi eu casglu.”