1 “Gwaedda'n uchel, paid ag arbed,cod dy lais fel utgorn;mynega eu gwrthryfel i'm pobl,a'u pechod i dŷ Jacob.
2 Y maent yn fy ngheisio'n feunyddiol,ac yn deisyfu gwybod fy ffordd;ac fel cenedl sy'n gweithredu cyfiawnder,heb droi cefn ar farn eu Duw,dônt i ofyn barn gyfiawn gennyf,ac y maent yn deisyfu nesáu at Dduw.
3 “ ‘Pam y gwnawn ympryd, a thithau heb edrych?Pam y'n cystuddiwn ein hunain, a thithau heb sylwi?’ meddant.Yn wir, wrth ymprydio, ceisio'ch lles eich hunain yr ydych,a gyrru ar eich gweision yn galetach.
4 Y mae eich ympryd yn arwain i gynnen a chweryl,a tharo â dyrnod maleisus;nid yw'r fath ddiwrnod o ymprydyn dwyn eich llais i fyny uchod.
5 Ai dyma'r math o ympryd a ddewisais—diwrnod i rywun ei gystuddio'i hun?A yw i grymu ei ben fel brwynen,a gwneud ei wely mewn sachliain a lludw?Ai hyn a elwi yn ympryd,yn ddiwrnod i ryngu bodd i'r ARGLWYDD?
6 “Onid dyma'r dydd ympryd a ddewisais:tynnu ymaith rwymau anghyfiawn,a llacio clymau'r iau,gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd,a dryllio pob iau?
7 Onid rhannu dy fara gyda'r newynog,a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ,dilladu'r noeth pan y'i gweli,a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun?