6 “Onid dyma'r dydd ympryd a ddewisais:tynnu ymaith rwymau anghyfiawn,a llacio clymau'r iau,gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd,a dryllio pob iau?
7 Onid rhannu dy fara gyda'r newynog,a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ,dilladu'r noeth pan y'i gweli,a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun?
8 Yna fe ddisgleiria d'oleuni fel y wawr,a byddi'n ffynnu mewn iechyd yn fuan;bydd dy gyfiawnder yn mynd o'th flaen,a gogoniant yr ARGLWYDD yn dy ddilyn.
9 Pan elwi, bydd yr ARGLWYDD yn ateb,a phan waeddi, fe ddywed, ‘Dyma fi.’“Os symudi'r gorthrwm ymaith,os peidi â chodi bys i gyhuddo ar gam,
10 os rhoddi o'th fodd i'r anghenus,a diwallu angen y cystuddiol,yna cyfyd goleuni i ti o'r tywyllwch,a bydd y caddug fel canol dydd.
11 Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser,yn diwallu dy angen mewn cyfnod sych,ac yn cryfhau dy esgyrn;yna byddi fel gardd ddyfradwy,ac fel ffynnon ddŵra'i dyfroedd heb ballu.
12 Byddi rhai ohonoch yn adeiladu'r hen furddunnodac yn codi ar yr hen sylfeini;fe'th elwir yn gaewr bylchau,ac yn adferwr tai adfeiliedig.