1 O na fuaset wedi rhwygo'r nefoedd, a dod i lawr,a'r mynyddoedd yn toddi o'th flaen,
2 fel tân yn llosgi prysgwydd,fel dŵr yn berwi ar dân,er mwyn i'th enw ddod yn hysbys i'th gaseion,ac i'r cenhedloedd grynu yn dy ŵydd!
3 Pan wnaethost bethau ofnadwy heb i ni eu disgwyl,daethost i lawr, a thoddodd y mynyddoedd o'th flaen.
4 Ni chlywodd neb erioed,ni ddaliodd clust, ni chanfu llygadunrhyw Dduw ond tydi,a wnâi ddim dros y rhai sy'n disgwyl wrtho.
5 Rwyt yn cyfarfod â'r rhai sy'n hoffi gwneud cyfiawnder,y rhai sy'n cofio am dy ffyrdd.Er dy fod yn digio pan oeddem ni'n pechu,eto roeddem yn dal i droseddu yn dy erbyn.
6 Aethom i gyd fel peth aflan,a'n holl gyfiawnderau fel clytiau budron;yr ydym i gyd wedi crino fel deilen,a'n camweddau yn ein chwythu i ffwrdd fel y gwynt.
7 Ac nid oes neb yn galw ar dy enw,nac yn trafferthu i afael ynot;cuddiaist dy wyneb oddi wrthym,a'n traddodi i afael ein camweddau.