4 Ni chlywodd neb erioed,ni ddaliodd clust, ni chanfu llygadunrhyw Dduw ond tydi,a wnâi ddim dros y rhai sy'n disgwyl wrtho.
5 Rwyt yn cyfarfod â'r rhai sy'n hoffi gwneud cyfiawnder,y rhai sy'n cofio am dy ffyrdd.Er dy fod yn digio pan oeddem ni'n pechu,eto roeddem yn dal i droseddu yn dy erbyn.
6 Aethom i gyd fel peth aflan,a'n holl gyfiawnderau fel clytiau budron;yr ydym i gyd wedi crino fel deilen,a'n camweddau yn ein chwythu i ffwrdd fel y gwynt.
7 Ac nid oes neb yn galw ar dy enw,nac yn trafferthu i afael ynot;cuddiaist dy wyneb oddi wrthym,a'n traddodi i afael ein camweddau.
8 Ond tydi, O ARGLWYDD, yw ein tad;ni yw'r clai a thi yw'r crochenydd;gwaith dy ddwylo ydym i gyd.
9 Paid â digio'n llwyr, ARGLWYDD,na chofio camwedd am byth.Edrych, yn awr, dy bobl ydym ni i gyd.
10 Aeth dy ddinasoedd sanctaidd yn anialwch;y mae Seion yn anialwch a Jerwsalem yn anghyfannedd.