15 Erys eich enw yn felltith gan f'etholedigion;bydd yr Arglwydd DDUW yn dy ddifa,ond fe rydd enw gwahanol ar ei weision.
16 Bydd pawb ar y ddaear sy'n ceisio bendithyn ceisio'i fendith yn enw Duw gwirionedd,a phawb ar y ddaear sy'n tyngu llwyn tyngu ei lw yn enw Duw gwirionedd.”“Anghofir y treialon gynt,ac fe'u cuddir o'm golwg.
17 Yr wyf fi'n creu nefoedd newydd a daear newydd;ni chofir y pethau gynt na meddwl amdanynt.
18 Byddwch lawen, gorfoleddwch yn ddi-baidam fy mod i yn creu,ie, yn creu Jerwsalem yn orfoledd,a'i phobl yn llawenydd.
19 Gorfoleddaf yn Jerwsalem,llawenychaf yn fy mhobl;ni chlywir ynddi mwyach na sŵn wylofain na chri trallod.
20 Ni bydd yno byth eto blentyn yn dihoeni,na henwr heb gyflawni nifer ei flynyddoedd;llanc fydd yr un sy'n marw'n ganmlwydd,a dilornir y sawl nad yw'n cyrraedd ei gant.
21 Byddant yn adeiladu tai ac yn byw ynddynt,yn plannu gwinllannoedd ac yn bwyta'u ffrwyth;