21 Byddant yn adeiladu tai ac yn byw ynddynt,yn plannu gwinllannoedd ac yn bwyta'u ffrwyth;
22 ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu,nac yn plannu ac arall yn bwyta.Bydd fy mhobl yn byw cyhyd â choeden,a'm hetholedig yn llwyr fwynhau gwaith eu dwylo.
23 Ni fyddant yn llafurio'n ofer,nac yn magu plant i drallod;cenhedlaeth a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD ydynt,hwy a'u hepil hefyd.
24 Byddaf yn eu hateb cyn iddynt alw,ac yn eu gwrando wrth iddynt lefaru.
25 Bydd y blaidd a'r oen yn cydbori,a'r llew yn bwyta gwair fel ych;a llwch fydd bwyd y sarff.Ni wnânt ddrwg na difrodyn fy holl fynydd sanctaidd,” medd yr ARGLWYDD.